CARNARVON TRADERS

The Repository of all Things Historical for the Ancient Welsh Town of Carnarvon

  Castle Square, Carnarvon. Published by Williams & Hughes, Bridge Steet, 1850


Home



Contents



What's New



News



List of Trades



Directories



Census



Miscellaneous



Biographies



Images



Parish Chest



Books



Caernarfon Ddoe/
Caernarfon's Yesterdays




Contact & Links



Copyright


SYNNAU DRE (Ddoe a Heddiw)


Rhaffau'n taro mastiau, llongwyr yn gweiddi, synau'r tryciau yn y gwaith coed a'r ffowndri. Y merched yn taro bargen yn y farchnad bysgod, plant a'u holwyn droi, cŵn yn rhedeg ac yn cyfarth a gwichian wrth gael eu cicio gan yr hogia. Sŵn ffraeo tu allan i'r Patent Vaults wrth i'r meddwyn gwffio ar gorn dynes neu gêm o gardiau.

Y Gloch Crogi
Y Gloch Crogi © Emrys Llewelyn
Mae pob tref yn llawn synau a tydy Caernarfon ddim gwahanol. Ond mae na wahaniaeth hefyd. Nid pob tref sydd wedi clywed sŵn y llengfilwyr Rhufeinig yn agosau at Afon Seiont a’r hyn a ddaeth yn gaer Segontium. Byddai'r hen bobol yn eu caer fechan ar gopa Twtil wedi bod yn syfrdan wrth weld a chlywed llinnell hir o filwyr estron yn cyrraedd.

Yn y 13eg ganrif synau anghyfarwydd cannoedd o weithwyr yn bustachu i godi muriau’r dref a’r castell fyddai wedi bod. Deuai llongau â'r cerrig o ochrau Caer i Cei Banc. Dyma ddatganiad mawr Edward 1af, nid yn unig yng Nghaernarfon ond yn Rhuddlan, Conwy, Biwmares a Harlech.

Ddiwedd y ganrif honno, fodd bynnag, ym 1297 clywyd corn yn galw yng nghanol y farchnad ar y Maes Glas. Roedd Madog ap Llywelyn wedi dod i ymosod ar y dref, ei llosgi, chwalu’r muriau i’r llawr a lladd pob un o’r gatrawd gan gynnwys Roger de Puleston, Canghellor Arfon, Môn a Meirion. Doedd Edward ddim yn rhy hoff o hynny! O ganlyniad fuo fo fawr o dro yn anfon mintai enfawr i Gaernarfon i ddial ar Madog a’i filwyr ac yna ail godi’r muriau. Dyna’r ymosodiad ola’ ar gastell Caernarfon er i ambell un arall, fel Owain Glyndwr, roi cynnig arni.

Ar ddechrau’r 15ed ganrif y cododd Owain yn erbyn y Saeson. Gyda’i weledigaeth am genedl ac eglwys Gymreig annibynnol esgorodd ar gyfnod cythryblus yng Nghymru. Daeth aelodau blaenllaw o’r eglwys a’r gymdeithas i’w gefnogi. Fe adawyd y Saeson i amddiffyn ychydig o gestyll a threfi caerog ond ni fu ymosodiad Owain Glyndwr ar Gaernarfon yn llwyddiannus er iddo fo a’i filwyr gadw’r dref dan warchau am wythnosau lawer.

Yn ystod Rhyfel Cartref 1642–1651 cafwyd mwy o synau chwalu a llosgi. Dymchwelyd sawl adeilad yn ardal Stryd Llanover (Llanfair Is-gaer) a Stryd Boots gan Cyrnol Bryon (Brenhinwr) er mwyn amddiffyn y castell rhag byddin Cromwell. Wrth i Stryd Boots (Ffordd Bangor heddiw) ddiflannu collwyd un o dai to gwellt hynaf y dref.

Ganrif yn ddiweddarach daeth Caernarfon yn un o’r porthladdoedd pwysicaf yn y byd, yn adeiladu llonagu ac yn allforioi llechi. Anfonwyd y lechen las i bob cwr o’r glôb a byddai sŵn y llongau llechi yn y Cei yn diasbedain. Sŵn y gweithwyr yn y ffowndri hefyd wrth i’r dynion wneud tsieini, rhaffau ac angorau. Adeiladwyd dros 200 o longau ym mhorthladd Caernarfon rhwng 1758 a 1898.


 Y Cei Llechi
Y Cei Llechi © Gwasanaeth Archifau Gwynedd
Fel ym mhob porthladd mae hanesion am longau yn suddo. Byddai pobol tref Caernarfon wedi bod yn gwbl ddiymadferth, er enghraifft, wrth glywed y trueiniaid ar fwrdd y Vine yn galw am help. Fe suddodd honno ym 1847 wrth i wyntoedd eithriadol chwthu o’r De. De Gorllewin.

Un o longau mwyaf poblogaidd a phwysicaf Caernarfon oedd y fferi ar draws y Fenai. Mae fferi wedi croesi’r culfor ers canrifoedd. Deuai canoedd o bobol hwyliog gorllewin Môn i Gaernarfon ar y stemar fach i'r farchnad ar y Maes cyn ffarwelio â chyfeillion a chariadon wrth y slip yn Ty’n Cei. Hyd heddiw, os sylwch chi ar iaith pobol Brynsiecyn, mae ’na acen Cofi i’w chlywed yno yn rhywle!

Un o synau mwyaf sinistr Caernarfon oedd sŵn cloch Eglwys y Santes Fair. Hi fyddai’n cyhoeddi bod crogi carcharor ar fin digwydd yn y Tŵr Crogi. Heidiai’r dorf i weld y weithred ac fe’i defnyddiwyd fel esgus i gael parti! Fe ganai’r gloch am bum munud cyn y crogi ac roedd y deuddeg caniad ola yn rhai hir cyn i’r trueiniaid ddisgyn i’w marwolaeth. Gwahanol a hwyliog iawn oedd y synau a glywid ar hyd strydoedd y dref yn y 19eg ganrif. Llais y Galwr (y Town Crier) oedd hwnnw yn cyhoeddi pob math o ddigwyddiadau. Bod y Maer am gynnal ffair yn y Farchnad (er mai Llofft yr Hôl oedd y Cofis yn galw'r lle bryd hynny). Bod rhyw fyddigions yn dod i Gaernarfon i weld rhyfeddodau’r dref a’r rhan yma o Gymru – gwlad a golygfeydd tra gwahanol i fyd bach eu tai crand ym mhellafoedd Lloegr. Bod Betsan a Robin o Tre’r Gof wedi cael eu llosig i farwolaeth yn eu cartref a bod Bob Robin yn y stocs yn Pendist ar ôl cael ei ddal yn gwneud dryga’ wedi meddwi. Fo oedd yr ola i’w roi yn y stocs yng Nghaernarfon.

Pobl fel Robin sy’n gwneud tref – yn siarad, chwerthin, ffraeo, dwrdio, caru a chrio. Mi fyddech yn clywed pob un o’r rheiny yn y farchnad fawr, lle gwerthid ceffylau a gwartheg. Yno byddai sŵn plant yn chwarae ac olwynion troliau yn cario pob math o nwyddau. Canmol eu basgedi gwellt ar dop eu lleisiau wnaethai’r sipsiwn a doedd dim pall ar genadwri’r Cwac wrth sôn am ei foddion – yr union foddion fyddai wedi bod yn gyfrifol am wella Ymerawdwr China medda fo! Dadlau oedd prif fyrdwn y meddwyn, tra byddai’r pregethwyr yn dwrdio a’r cynghorwyr yn seboni am bleidlais yn etholiad wsnos nesa. Mi welech Stromboli, y dyn cryf, yn herio pawb a Martha Fawr yn gofyn i bobol ddyfalu faint oedd hi’n bwyso.

Ac wrth i fysus deg adael y Maes am y wlad byddai synau caru, crio, cwffio a chwerthin yn llenwi’r strydoedd. Erbyn heddiw, sŵn ceir, y trên bach, canu ar benwythnos gêm rygbi a gwylanod sy’n byddaru pawb. Ia, yr wylan felltith ’na sy’n bla ac sydd, o’r herwydd, wedi cael ei hail fedyddio gan y Cofi yn Cudyll Cachu’n Cei. Y gwir ydy bod y diawlad yn cachu ym mhobman!

Erbyn heddiw hefyd cychod pleser yw’r rhan fwyaf o’r cychod yn y Cei a’r Doc er bod rhai yn dal i fynd i sgota ac i gario ymwelwyr ar hyd y Fenai. Ond ydy, mae sŵn y rhaffau’n taro’r mastiau i’w glywed o hyd, yn union fel yr oedd hi gant a hanner o flynyddoedd yn ôl.

© Emrys Llewelyn 2013

  © 2003 - 2021 Keith Morris. All rights reserved